Âé¶¹´«Ã½ÍøÕ¾

Alert Section

Amhariad ar gyflenwadau dŵr ar draws ardaloedd yn Sir y Fflint


Mae Dŵr Cymru yn delio gyda effaith nam ar brif bibell ddŵr ym Mrychdyn all effeithio ar y cyflenwad dŵr i rai cwsmeriaid yn Sir Fflint yn ardaloedd Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes-glas, Llannerch-y-môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â Dŵr Cymru, y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner i gydlynu’r ymateb a sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn.

Oherwydd problemau parhaus gyda chyflenwad Dŵr Cymru:

  • Ni fydd ein swyddfeydd yn Ewlo a Fflint ar agor i'r cyhoedd, mynediad yn unig

Gwastraff ac Ailgylchu

Yn sgil traffig yn yr ardaloedd o amgylch gorsafoedd casglu dŵr, efallai y bydd criwiau’n cael problemau mynediad.  Os na fydd eich gwastraff yn cael ei gasglu, gadewch o allan ac fe fydd yn cael ei gasglu yn nes ymlaen heddiw neu yfory. 

Oherwydd problemau adnoddau, mae casgliadau gwastraff clinigol ddiwrnod yn hwyr. Os ydych chi fel arfer yn cael casgliad ddydd Gwener, bydd yn cael ei gasglu ddydd Sadwrn.

Cyflenwadau dŵr mewn argyfwng

Sefydlwyd gorsafoedd i bobl gasglu poteli dŵr yn y mannau hyn:

  • Pafiliwn Jade Jones, Earl Street, Y Fflint, CH6 5ER
  • Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Shotton CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i a .