Âé¶¹´«Ã½ÍøÕ¾

Alert Section

Treth Gyngor Cwestiynau Cyffredin


 

Gosod y gyllideb ar gyfer 2026/27

Mae cyfres o sy’n rhoi gwybodaeth fwy manwl am y bwlch cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor yn 2026/27 a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i osod cyllideb fantoledig gyfreithiol hefyd ar gael. 

Pam bod bwlch yn y gyllideb o le mae hyn yn dod?

  • 68% o Lywodraeth Cymru
  • 27% o Dreth y Cyngor
  • 5% o'r ffioedd ar gyfer rhai gwasanaethau e.e. ffioedd cynllunio, ffioedd gwastraff gardd, ffioedd y Swyddfa Gofrestru

Ar beth mae'r Cyngor yn Gwario ei Arian?

Gellir gweld manylion cyllideb y Cyngor a sut mae'r arian yn cael ei wario

Cliciwch yma

Beth fydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor i drigolion Sir y Fflint yn 2026?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor mor isel a phosibl, fodd bynnag heb gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ac yn yn wyneb yr angen i gau bwlch o £9.519 miliwn yn ein cyllideb, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gosod Treth y Cyngor uwch o 4.98% i dalu am wasanaethau’r cyngor.

Mae pob un o'r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru hefyd yn cyfrannu at gostau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Crwneriaid Gogledd Cymru.   Mae’r costau hyn yn cynyddu bob blwyddyn ac mae Sir y Fflint wedi ychwanegu 0.48% at ei gyfran o Dreth y Cyngor ar gyfer hyn.

Daw hyn â chyfanswm cynnydd cyfran Cyngor Sir y Fflint o Dreth y Cyngor I 5.46%

O ychwanegu hyn at yr arian a gesglir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’ch Cyngor Tref a Chymuned (sydd i’w weld ar eich bil) y cynnydd canrannol ar gyfer eiddo Band D yn Sir y Fflint fydd 5.77%. Mae’r ddau dabl isod yn dangos y ganran a’r cynnydd ariannol y gellir ei ddisgwyl yn seiliedig ar eiddo Band D ar gyfartaledd.

Tai band D - yn wythnosol bob mis

Tai band D - yn wythnosol bob mis
Tai band DTreth Cyngor 2026/27 (£)Treth Cyngor 2025/26 (£)Gwahaniaeth Blynddol (£)Gwahaniaeth Misol (£)Gwahaniaeth wythnosol (£)
Cyngor Sir y Fflint £1914.92 £1,815.78 £99.14 £8.26 £1.91
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £398.25 £372.15 £26.10 £2.18 £0.50
Cynghorau Tref a Chymuned £63.00* £58.54* £4.46* £0.37* £0.09*
Cyfanswm Tai Band D £2376.17 £2,246.47 £129.70 £10.81 £2.50

Dadansoddiad o dâl Band D

Dadansoddiad o dâl Band D
Tai band DTreth Cyngor 2026/27 (£)Treth Cyngor 2025/26 (£)Gwahaniaeth (£)Gwahaniaeth (%)
Cyngor Sir y Fflint £1,914.92 £1,815.78 £99.14 5.46%
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru £398.25 £372.15 £26.10 7.01%
Cynghorau Tref a Chymuned £63.00* £58.54* £4.46* 7.61%*
Cyfanswm Tai Band D £2,376.17 £2,246.47 £129.70 5.77%

*Cyfartaledd y gost ar draws 34 o Gynghorau Tref a Chymuned. Bydd y gost ar fliau unigol yn amrywio o Gyngor i Gyngor

Beth ydw i`n talu amdano gyda fy Nhreth Cyngor?

Treth leol ydi Treth y Cyngor sydd yn cael ei gasglu gan bob cyngor yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar werth eiddo domestig fel y pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae bil eich Treth Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol - tâl i Gyngor Sir y Fflint (gan gynnwys Tân ac Achub), tâl i Heddlu Gogledd Cymru, a thâl i’ch cyngor tref neu gymuned leol.

Dim ond 27% o’r arian y mae’r Cyngor ei angen i dalu am wasanaethau lleol sydd yn cael ei godi trwy Dreth y Cyngor. Daw’r rhan fwyaf o’n incwm (68%) gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant. Daw’r 5% sy’n weddill o’r ffioedd rydym yn ei godi am rai gwasanaethau.

Nid yw Treth y Cyngor rydym yn ei gasglu yn fil uniongyrchol am y gwasanaethau unigol a ddarperir gan y Cyngor, yn hytrach caiff ei gyfuno i helpu i dalu am yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.

Mae’n rhaid i dalwyr y Dreth Gyngor dalu swm y dreth sydd yn ddyledus am eu heiddo ac ni allant ofyn am ostyngiad neu ddisgownt am nad ydyn nhw nac aelodau o’u teulu, wedi cyrraedd y cyfnod yn eu bywyd pan nad ydynt yn defnyddio’r holl wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Bob blwyddyn, byddwn yn darparu dadansoddiad o ble ddaw incwm y Cyngor a sut caiff yr arian ei wario.

Beth mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud a pham eu bod ar fy mil?

Mae yna 34 Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint. Maent yn darparu neu’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a chyfleustodau lleol gan gynnwys neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddi cyhoeddus, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed. Mewn rhai achosion gallant gyfrannu at y gost o redeg cyfleusterau lleol mwy megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Mae’ch Cyngor Tref neu Gymuned yn derbyn mwyafrif ei arian trwy gyfran o’r Dreth Cyngor sy’n cael ei dalu gan breswylwyr sy’n byw o fewn ei ffiniau. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae swm y ‘praesept’ y mae eich Cyngor Tref neu Gymuned yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Cyngor Tref neu Gymuned.

Mae’r Cyngor Sir yn cyhoeddi rhestr o braeseptau Cynghorau Tref a Chymuned bob blwyddyn.

Beth mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ei wneud a pham ei fod ar fy mil?

Cyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yw darparu gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer ardal gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Panel Heddlu a Throsedd i osod cyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r Llywodraeth yn darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid sy’n angenrheidiol i gynnal gwasanaethau’r Heddlu yng ngogledd Cymru. Codir gweddill yr arian drwy Dreth y Cyngor. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r pum cyngor arall yng ngogledd Cymru, yn gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae swm y ‘praesept’ y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Bob blwyddyn mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth cyllideb am gynlluniau gwario Heddlu Gogledd Cymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Pam fod angen Cynnydd yn Nhreth y Cyngor?

Wrth ddyrannu ei gyllideb gyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn dynodi cyfran i ariannu gwasanaethau’r cyngor.  Yna mae’r arian yn cael ei rannu rhwng y 22 Cyngor yng Nghymru.  Mae’r swm mae pob cyngor yn ei dderbyn yn cael ei gyfrifol trwy Fformiwla Cyllido Llywodraeth Leol.  Mae’n ystyried pethau fel maint daearyddol y cyngor, pa mor wledig ydyw, maint y boblogaeth, yr economi yn yr ardal o ran cyfoeth a thlodi.Mae gan Sir y Fflint y chweched boblogaeth fwyaf yng Nghymru, fodd bynnag, o dan y Fformiwla Cyllido, mae Sir y Fflint yn Gyngor wedi’i ariannu’n isel, yn yr 19 safle allan o 22 Gyngor o ran y swm o arian mae’n ei dderbyn fesul pen y boblogaeth (gweler y tabl isod).  Mae hyn £170 yn is fesul person na chyfartaledd Cymru.  Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £26.5m yn well allan yn ariannol. 

Ers 2008 mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod torri £125 miliwn ar ei wariant.  Mae wedi mynd yn fwy a mwy anodd bob blwyddyn i fantoli’r gyllideb,  a mantoli’r gyllideb ar gyfer 2025/26 fu’r dasg anoddaf eto.

Yn yr un modd ag aelwydydd unigol, mae’r Cyngor yn teimlo effeithiau prisiau cynyddol ac ar ôl 16 mlynedd o ostyngiadau mewn cyllid a gorfod torri gwariant, ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar ôl i wneud pethau’n wahanol er mwyn arbed arian.   

Ym mis Rhagfyr 2025, roedd disgwyl bwlch o £28.945 miliwn yn ein cyllideb. 

Gan ystyried:

  • Cyhoeddiad setliad dros dro Llywodraeth Cymru - cynnydd o 2.3% ar gyfer Sir y Fflint, a
  • Cynnydd Treth y Cyngor 5% dangosol 

cafodd y bwlch hwn ei ostwng i £9.519 miliwn. 

Ym mis Ionawr bu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynnydd yn ein setliad (o 2.3% i 4.1% ar gyfer Sir y Fflint).

Er bod croeso i’r cyllid ychwanegol hwn, nid oedd yn ddigon i gau’r bwlch ac nid oes gennym unrhyw ddewis ond gwneud penderfyniadau anodd ynghylch ble ddylem gwtogi ein gwariant.  

I gyflawni cyllideb gytbwys yn gyfreithiol bu i’r Cyngor:

  • ofyn i bob gwasanaeth ganfod gostyngiadau pellach yn y gyllideb.
  • cynyddu ffioedd a thaliadau ar gyfer rhai gwasanaethau.
  • cytuno ar gynnydd terfynol yn Nhreth y Cyngor o 4.98% i dalu am wasanaethau’r Cyngor gyda 0.48% pellach i helpu i dalu am gynnydd yn ein cyfraniadau i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cyngor2026-27 Cyllid Gan Llywodraeth Cymru  (£m)Cyllid Llywodraeth Cymru fesul pen o'r boblogaeth (£)Safle yng Nghymru fesul pen o'r boblogaeth
Blaenau Gwent 165,530 2,439 1
Merthyr Tudful 142,226 2,412 2
Ddinbych 229,908 2,341 3
Rhondda Cynon Taf 556,416 2,291 4
Castell-nedd Port Talbot 326,025 2,276 5
Siriol Caerffili 398,562 2,253 6
Torfaen 205,875 2,187 7
Gwynedd 264,009 2,185 8
Casnewydd 356,168 2,121 9
Ceredigion 153,336 2,112 10
Gaerfyrddin 400,106 2,097 11
Ynys Môn 144,585 2,092 12
Conwy 233,503 2,032 13
Pen-y-bont ar Ogwr 296,168 2,008 14
Abertawe 502,797 2,001 15
Powys 267,568 1,981 16
Sir Penfro 248,890 1,979 17
Wrexham 268,026 1,939 18
Sir y Fflint 294,090 1,887 19
Caerdydd 716,999 1,868 20
Bro Morgannwg 240,134 1,769 21
Sir Fynwy 144,723 1,525 22
Cyfanswm y Cynghorau 6,555,645 2,057   

*Cyllid Allanol Cyfun

 
Awdurdod UnedolCanran Cynnydd Treth y Cyngor (yr uchaf I'r isaf)Safle
Conwy 6.50% 1
Siriol Caerffili 6.35% 2
Sir Fynwy 5.95% 3
Bro Morgannwg 5.50% 4
Sir y Fflint 5.46% 5
Sir Ddinbych 5.22% 6
Gwynedd 5.17% 7
Ynys Môn 5.10% 8
Merthyr Tudful 5.00% 9
Pen-y-bont ar Ogwr 4.95% 10
Gaerfyrddin 4.90%
11


Powys 4.90%
Wrecsam 4.90%
Casnewydd 4.90%
Ceredigion 4.75% 12
Sir Penfro 4.60% 13
Rhondda Cynon Taf 4.00% 14
Torfaen 3.95% 15
Abertawe 3.90% 16
Blaenau Gwent 3.75% 17
Castell-nedd Port Talbot 3.50% 18 
Caerdydd 3.50%



Mae gwybodaeth fwy manwl am yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor a gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26 i’w gweld yn .

Beth allaf I ei wneud os na allaf l fforddio talu Treth y Cyngor?

Gall talwyr Treth y Cyngor ar incwm isel, sy’n derbyn budd-daliadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol, fod yn gymwys i gael cymorth tuag at dalu Treth y Cyngor. Gelwir hyn yn Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. i ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld os allwch chi gael unrhyw gymorth.

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn gymwys ar ôl defnyddio’r cyfrifiannell budd-daliadau, i gyflwyno ffurflen ‘ar-lein’ am Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

I helpu talwyr Treth y Cyngor i neilltuo arian o amgylch taliadau misol, gall y Cyngor gynnig rhandaliadau dros gyfnod o 12 mis yn lle 10 mis, neu faint bynnag o fisoedd sydd yn weddill yn y flwyddyn tan fis Mawrth 2026. Os hoffech chi newid eich dull o dalu neu i sefydlu taliadau dros 12 mis, gallwch gysylltu â thîm Treth y Cyngor. E-bost: local.taxation@flintshire.gov.uk Rhif ffôn 01352 704848.

I sefydlu Debyd Uniongyrchol yn syml ac yn gyflym

Pam nad yw’r Cyngor yn mynd ar ôl y rheini nad ydynt yn talu Treth y Cyngor ar amser – byddai hynny’n siŵr o helpu i leihau’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor?

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, eisoes yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor.

Yn ystod 2024/25, mae aelwydydd wedi’i chael yn anodd gwneud eu taliadau Treth y Cyngor, a hawdd deall pam. Fodd bynnag, rydym wedi cynorthwyo’r aelwydydd hyn drwy gysylltu â nhw a’u cefnogi i wneud ceisiadau am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor, a thrwy wneud trefniadau talu arbennig mewn achosion unigol sydd wedi sicrhau bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn un o’r Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu treth y Cyngor. 

Byddwn yn parhau i gefnogi’r bobl hyn i wneud eu taliadau, a disgwyliwn y byddwn yn casglu o leiaf 98.8% o’r dreth sy’n ddyledus mewn unrhyw flwyddyn yn y pendraw – mae hyn yn dipyn uwch na'r cyfartaledd Cymreig o 97.9%.

Ym mlwyddyn ariannol 2024/25 er gwaethaf effeithiau disgwyliedig costau byw, casglodd y Cyngor 97.2% o Dreth y Cyngor a oedd yn ddyledus, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a gasglwyd ar draws Cymru yn y flwyddyn honno, sef 95.6%. Roedd hyn hefyd yn uwch na’r gyfradd gasglu gyfartalog o 95.9% yn Lloegr a 95.5% yn yr Alban, fel sydd i’w weld isod.

Mae hyn yn golygu bod Sir y Fflint yn yr ail safle o 22 o ran y Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru.

 Collection Rate Comparison 26 Cym

Rydym yn parhau i weithio gyda thrigolion drwy ei gwneud yn haws i breswylwyr dalu eu biliau a chael mynediad at ein gwasanaethau.

Rydym hefyd yn cydnabod y gall rhai aelwydydd ei chael yn anodd talu, ac rydym yn annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu i gysylltu’n fuan â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 neu drwy fynd i’r .

Pam ydw i`n talu Treth y Cyngor helpu gwasanaethau cynnal nad i`n eu defnyddio?

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti tenantiaid y Cyngor.

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heiddo ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, ar hyn o bryd, yn defnyddio rhai o wasanaethau'r Cyngor.

Mae addysg a gofal cymdeithasol yn enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau fel estyniad i’r Wladwriaeth Les. Mae pob un ohonom ni’n cyfrannu tuag.