Âé¶¹´«Ã½ÍøÕ¾

Alert Section

TÅ· Amlfeddiannaeth (HMOs)


Pwy sydd angen Trwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Chi sydd yn gyfrifol am wneud cais am drwydded ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth os:

  • ydych chi’n berchen neu’n prydlesu eiddo sydd yn bodloni’r diffiniad o Dai Amlfeddiannaeth a’ch bod yn derbyn rhent (naill ai’n cael ei gasglu’n uniongyrchol gan y tenantiaid neu drwy asiant) gan denantiaid neu ddeiliaid trwydded (gall asiantaid wneud cais am y drwydded ar ran landlordiaid).
  • ydych chi’n derbyn ‘crogrent’ (dau draean neu fwy o werth net blynyddol y rhent) o eiddo sydd yn bodloni’r diffiniad o Dai Amlfeddiannaeth (yn cynnwys asiantaid sy’n derbyn y rhent gan denantiaid ar ran landlordiaid neu denantiaid sydd yn isosod)
  • Fel arfer, deiliad y drwydded yw’r landlord neu asiant rheoli sydd â rheolaeth lawn. Gall deiliad y drwydded fod yn gwmni cofrestredig.
  • Yr ymgeisydd yw’r unigolyn sy’n llenwi’r ffurflen. Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen ar ran rywun arall i fod yn ddeiliad y drwydded, yna enwch eich hun fel yr “ymgeisydd” ac enwch yr unigolyn arall fel “deiliad y drwydded”.

Mae methiant i ymgeisio am drwydded pan fo angen, yn drosedd o dan Adran 72 Deddf Tai 2024 a gallech orfod talu dirwy heb gyfyngiad o gael collfarn ddiannod (hyd at £20,000 yn flaenorol).

Hefyd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r unigolyn hwnnw ad-dalu hyd at 12 mis o rent a gasglwyd yn ystod yr amser y bu’r eiddo heb drwydded. 


Pryd i wneud cais

Mae’n rhaid gwneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth cyn gynted â’i fod yn cael ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth. Byddwn yn erbyn ceisiadau hyd at bedair wythnos cyn bod y tŷ’n cael ei ddefnyddio.  Byddwn yn gofyn am gopïau o gytundebau tenantiaeth i brofi’r dyddiad y cafodd y tŷ ei ddefnyddio. 

Nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i drwyddedau Tai Amlfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i unigolyn arall. Mae angen cyflwyno cais newydd ar gyfer deiliad y drwydded Tai Amlfeddiannaeth newydd e.e. perchennog neu asiant. 

Diffiniadau HMO

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

O dan Ddeddf Tai 2004, mewn telerau syml, Tŷ Amlfeddiannaeth yw:

  • Tŷ cyfan neu fflat sy’n cael ei feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi a thoiled.
  • Tŷ sydd wedi’i droi’n fflatiau un ystafell neu lety arall heb fod yn hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy'n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Tŷ wedi’i addasu sy'n cynnwys un fflat neu fwy heb fod yn gwbl hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
  • Adeilad sydd wedi’i droi yn gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair wedi’i feddiannu gan y perchennog a lle nad oedd yr addasiad yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 1991.

Gwneud cais am, amrywio neu adnewyddu Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Dogfen

Ffurflen gais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth - Wedi’i llofnodi

Datganiad Unigolyn cymwys ac addas - Wedi’i lofnodi gan Ddeiliad y drwydded

Datganiad Unigolyn cymwys ac addas - Wedi’i lofnodi gan Reolwr

Ffi gywir – gweler 'Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu'

Asesiad Risg Tân

Larwm Tân - Tystysgrif Comisiynu / Cynnal a Chadw/ Gwasanaethu

Goleuadau mewn Argyfwng – Tystysgrif Comisiynu / Cynnal a Chadw/ Gwasanaethu

Tystysgrif Prawf Offer Ymladd Tân

Adroddiad Cyflwr Gosod Trydanol

Tystysgrif Diogelwch Nwy - os yn berthnasol

Cynlluniau Llawr

Rhestr o ddogfennau sydd eu hangen

Ffurflen Gais Tai Amlfeddiannaeth 

Talu am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth

E-bostiwch: ppadmin@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01352 703440.

Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu

GwasanaethauCostau

Ffi Ymgeisio am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth

(Am y pum Uned gyntaf)

£405.44

Ffi Ymgeisio am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth

(Ffi am bob uned wedi hynny)

£38.79

Cyflwyno Hysbysiad Gwella / Gwahardd / Gwahardd Brys o dan y Ddeddf Tai 2004

£396.68
Rhestr o Wasanaethau a Chostau Trwyddedu HMO

Y ffi o 1 Ebrill 2026, fydd £849.40 am hyd at 5 uned a  £38.79 arall fesul uned wedyn. Mae’r ffi wedi cael ei phennu ar sail adennill costau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth ac mae’n cynnwys prosesu’r cais ac archwilio. Sylwch na fydd yna fantais ariannol wrth oedi’r cais.

Er mwyn osgoi cost a rhwystredigaeth, sylwch os bydd cais yn cael ei ddechrau ond ddim yn cael ei gwblhau o fewn 4 wythnos, fe all y Cyngor wrthod y cais a chadw unrhyw ffi a dalwyd. Yna mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddechrau’r broses unwaith eto.  

Safonau Isafswm

Categori A1 Fflatiau un Ystafell

Mae ‘fflatiau un ystafell’ er dibenion y safonau hyn, yn golygu tai amlfeddiannaeth sy’n cynnwys nifer o osodiadau fflatiau un ystafell ar wahân nad ydynt yn hunangynhwysol.

Mae cyfleusterau coginio a pharatoi bwyd yn cael eu darparu o fewn yr unedau unigol o lety, erefallai y bydd rhai preswylwyr yn rhannu cegin gymunedol, a bydd toiledau a chyfleusterau ymolchi'n cael eu rhannu.

Bydd pob fflat un ystafell yn cael eu gosod i unigolion ar wahân neu gyplau gyda’r preswylydd (preswylwyr) yn byw’n annibynnol o’r unigolion eraill.

Safonau Isafswm ar gyfer Fflatiau Ystafelloedd Gwely - Math A1 


Categori A2 Tai Amlfeddiannaeth Math Eiddo un Ystafell

Mae ‘Tai Amlfeddiannaeth Math Eiddo Un Ystafell" yn golygu, i ddibenion y safonau hyn, Tai Amlfeddiannaeth sy’n cynnwys nifer o ystafelloedd unigol sy’n cael eu rhentu nad ydyntyn hunangynhwysol lle y darperir cegin sy’n cael ei rhannu.

Nid oes modd coginio yn yrystafelloedd gosod unigol.

Efallai y bydd ystafell fyw gymunedol yn cael ei darparu.

Felarfer mae tenantiaethau unigol yn hytrach nag un denantiaeth ar y cyd. Bydd clo arddrysau'r ystafelloedd gwely fel arfer.

I ddechrau, efallai y bydd ychydig iawn neu dimrhyngweithio cymdeithasol ymysg y preswylwyr ond efallai y gall hyn newid dros amser.

Safonau Isafswm ar gyfer Llety Ystafell Wely - Math A2 


Categori B Tai a Rennir

Mae ‘Tai a Rennir’ yn golygu, at ddibenion y safon hon, HMOs lle mae'r eiddocyfan wedi cael ei osod ar rent gan grŵp adnabyddadwy o rannwyr megismyfyrwyr, cydweithwyr neu ffrindiau fel cyd-denantiaid.

Fel arfer, mae gan bobpreswylydd ei ystafell wely ei hun, ond maent yn rhannu'r gegin, cyfleusteraubwyta, ystafell ymolchi, toiled, ystafell fyw a phob rhan arall o'r tŷ.

Safonau Isafswm ar gyfer Tŷ a Rennir - Math B 


Categori F Fflatiau Hunangynhwysol

Mae “Fflatiau Hunangynhwysol” yn golygu, at ddibenion y safon hwn, tai neu adeiladausydd wedi eu hadeiladu fel neu wedi eu trosi’n gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol,hyd yn oed os yw cyfleusterau penodol wedi cael eu lleoli y tu allan i brif ddrws y fflat.

Safonau Isafswm ar gyfer Fflatiau Hunangynhwysol - Math F 

Amodau’r Drwydded ac Archwiliadau Tai Amlfeddiannaeth

Unwaith y bydd trwydded Tai Amlfeddiannaeth wedi’i rhoi, fe fydd gan y drwydded nifer o amodau y mae’n rhaid i ddeiliaid y drwydded gadw atynt yn ystod oes y drwydded. Yn bennaf mae’r amodau’n ymwneud â diogelwch tân, diogelwch trydanol ac amwynderau cyffredinol sydd yn yr eiddo.

Mae pob trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei roi am uchafswm o 5 mlynedd a disgwylir y bydd pob eiddo sydd â thrwydded yn cael ei archwilio o leiaf unwaith dros y cyfnod yma, gyda system archwilio seiliedig ar risg ar waith.

Sut i roi gwybod am Dai Amlfeddiannaeth didrwydded / Tai Amlfeddiannaeth mewn cyflwr gwael

Gallwch gysylltu â’r Tîm Safonau Tai drwy e-bostio ppadmin@siryfflint.gov.uk neu drwy ffonio 01352 703440.

Hysbysiad o Eithriad Dros Dro - Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Mae hysbysiad o eithriad dros dro mewn cysylltiad â Thai Amlfeddiannaeth yn eithriad cyfreithiol y gellir i roi gan yr awdurdod lleol mewn amodau penodol. 

Mae eithriad yn para am 3 mis, gellir rhoi eithriad am 3 mis pellach mewn amgylchiadau eithriadol. 

Rheolau Cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth

O fewn CSFf, mae’n rhaid i bob Tŷ Amlfeddiannaeth gael caniatâd cynllunio i allu gweithredu fel Tai Amlfeddiannaeth, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Cyngor Sir y Fflint - Cynllunio 

Ydi Caniatâd Mud yn berthnasol?

Nid yw caniatâd mud yn berthnasol i’r cais yma gan ei fod er budd y cyhoedd bod yn rhaid i’r Cyngor brosesu eich cais cyn iddo gael ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan Dîm Tai y Sector Preifat o fewn 90 diwrnod o ddyddiad eich cais, cysylltwch â ni.