Āé¶¹“«Ć½ĶųÕ¾

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diolch personol

Published: 07/11/2016

Yn ddiweddar ymwelodd y Gwir Anrh. Arglwydd Jones Ć¢ swyddfeydd cwmni ffilm lleol yn Bretton, Sir y Fflint. Roedd yr Arglwydd Jones yno i ddiolch i berchnogion ā€˜Picture House Films’ yn bersonol am y gwaith roeddynt wedi ei wneud wrth gynhyrchu ffilm ar gyfer y Wobr Etifeddiaeth a ddangoswyd yn ddiweddar yn 10fed Seremoni Gwobrau Busnes Sir y Fflint. Cafodd y Wobr Etifeddiaeth ei chyflwyno gan Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith Ken Skates ir Gwir Anrh. Arglwydd Barry Jones mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth gydol oes arbennig i fusnes ar economi a dywedodd Mr Skates: ā€œNi allaf feddwl am unrhyw un gwell, neu fwy haeddiannol, i dderbyn y wobr syn cydnabod gwaith diflino Arglwydd Barry Jones yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth. Mae wedi bod yn eiriolwr gwirioneddol ar gyfer anghenion a chyfleoedd yn y rhan yma o Gymru, gan gefnogi buddsoddiad mewn busnes a thwf swyddi ar bob cyfle, ac mae’n achub ar bob cyfle i hyrwyddo Sir y Fflint a Gogledd Ddwyrain Cymru lle bynnag y maen mynd.ā€ Yn ystod yr ymweliad, dywedodd Yr Arglwydd Jones: ā€œRwyf wrth fy modd wedi cael dod yma i ā€˜Picture House Films’ gan fy mod am ddiolch iddynt i gyd yn bersonol am y gwaith gwych y maent wedi ei wneud yn cynhyrchu ffilm mor gofiadwy a dwys. Mae’n bod Ć¢ chymaint o dalent yn ein hardal leol yn wirioneddol ysbrydoledig a hoffwn ddymuno pob llwyddiant pellach i’r cwmni ar gyfer y dyfodol.ā€ Mae’r cwmni hefyd wedi gweithio ar ffilmiau eraill ar gyfer Arddangosfa Fusnes Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint. Dywedodd Kate Oldfield, sydd gydar Arglwydd Jones ac Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler yn y llun: ā€œRydym yn falch iawn o groesawur Arglwydd Jones i’n swyddfeydd ā€˜Picture House. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod pob ffilm yn adrodd stori gymhellgar - a gyda phwnc fel yr Arglwydd Jones, doedd hyn ddim yn anodd. ā€œEi deyrnged bersonol yw’r ganmoliaeth orau y gallem ei dymuno; mae’n ddyn ysbrydoledig ac rydym yn lwcus iawn o’i gael yma yn Sir y Fflint.ā€