Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn cefnogi codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb
Published: 14/10/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar
gyfer āWythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casinebā a gynhelir o 8 i 15 Hydref.
Roedd swyddogion y Cyngor yng Ngholeg Cambria yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth
ac annog pobl i adrodd am droseddau casineb. Roeddent hefyd yn hyrwyddoār
gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Trosedd casineb yw trosedd yn erbyn unigolyn neu grwp o bobl ar sail eu
hunaniaeth neu eu gwahaniaeth canfyddiedig. Gall fod yn weithred o drosedd,
gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu
haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, crefydd,
ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw.
Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod
i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu
alwadau ffƓn.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod
y Cyhoedd a Hamdden:
āDerbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau
casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod
dioddef yn dawel. Er bod lefelau troseddau casineb yn eithaf isel yn y sir,
rwyn falch o weld ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru
a Heddlu Gogledd Cymru i godi proffil y mater pwysig a pherthnasol hwn.
āYn Ć“l gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, dros y 12 mis diwethaf, mae 30 o
ddigwyddiadau wediāu hadrodd a 26 yn y 12 mis blaenorol. Rydym yn gwybod nad yw
pob achos yn cael ei adrodd, ac felly dyna pam fod angen i ni godi hyder i
adrodd amdanynt.
Fel aelodau gweithgar oār Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, maeār Cyngor yn
gweithioān agos gydar Heddlu, y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth
TĆ¢n a sefydliadauār sector gwirfoddol, mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o
droseddau oār fath, ac i hyrwyddo mwy i adrodd am yr achosion. Maeār Cyngor
hefyd yn cydymffurfio Ć¢ āFframwaith Gweithredu- Mynd iār afael Ć¢ Throseddau a
Digwyddiadau Casinebā Llywodraeth Cymru, syān amlinellu eu strategaeth i fynd
iār afael Ć¢ Throseddau Casineb yng Nghymru.
Dylid rhoi gwybod am achosion o Drosedd Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd
Cymru ar 101 (999 mewn achos o argyfwng) neu system adrodd Cymorth i
Ddioddefwyr drwy ffonio eu llinell gymorth 24 awr am ddim ar 0300 30 31 982 neu
ar-lein www.reporthate.victimsupport.org.uk Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd
yn darparu cymorth wediāi dargedu ar gyfer rhai syān dioddef trosedd casineb.
Or chwith ir dde: PC Gary Robertshaw, Gerwyn Davies CSFf, Greg George- HGC,
Christine Dykins CSFf, Cyng Kevin Jones, Tom Williams CSFf, Sian Jones CSFf,
Mandy Burrows CBSW, PCSO Dan Kelly.