Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Offer achub bywyd yn cael ei dargedu
Published: 27/09/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint yn pryderu am fandaliaeth barhaus
i orsafoedd cylch achub ger Pwll Condies yn Bettisfield, safle y maen rheoli
ym Magillt, ac yn Noc Greenfield.
Yn Bettisfield, mae cylch achub wedi cael ei fandaleiddio 7 gwaith ers mis Mai,
ac ar un achlysur cafodd cylch achub a llinell daflu eu dwyn. Maeār orsaf cylch
achub wedi cael i ddifrodi ddwywaith ac wedi gorfod cael ei drwsio.
Yn Greenfield, maeār orsaf cylch bywyd cyfan wedi cael ei rwygo allan.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
āMaer darn hanfodol o offer achub bywyd wedi cael ei ailosod yn gyflym, ond
mae cyfnodau o amser pan nad yw wedi bod yn hygyrch oherwydd gweithredoedd
difeddwl a hunanol pobl eraill. Mae yna gost iāw dalu er mwyn trwsio ac ailosod
yr offer sydd wediāi ddifrodi, a gofynion ychwanegol ar ein Ceidwaid Gwasanaeth
Cefn Gwald sydd angen ymateb iār digwyddiadau hyn fel blaenoriaethā.
āMaer offer wedi cael ei osod am reswm da ac maen bryder os bydd yr ymddygiad
gwrthgymdeithasol yn parhau, efallai na fydd yr offer achub bywyd ar gael pan
fydd ei angen. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael gwybod am y digwyddiadau hyn
a buaswn yn annog aelodaur cyhoedd i roi gwybod iār Heddlu am unrhyw ymddygiad
amheus o amgylch y safle, neu gysylltu Ć¢ān Gwasanaeth Cefn Gwlad drwy ffonio
01352 703900.ā
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sydd ynghlwm ger gorsaf cylch bywyd Pwll Condies y mae aelod lleol y
Cyng. Mike Reece aār Ceidwad Cefn Gwlad Tim Johnson.