Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedauân cael budd o geginau newydd
Published: 15/07/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o
gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith diweddaru sydd angen
ei wneud ar ein stoc dai.
Maeâr contractwyr yn gweithio ar Safon Ansawdd Tai Cymru syân safon
genedlaethol ar gyfer cartrefi a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac maeâr
gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol.
Yn ogystal â hynny maeân contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn
amrywiol ffyrdd.
Esiampl o ddarparu mantais gymunedol yn ddiweddar yw bod dau oân contractwyr
wedi ail osod ceginau mewn nifer o ganolfannau cymunedol o fewn y sir.
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
âMae safon y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y lleoliadau hyn yn dda iawn ac
yn dangos crefftwaith safonol ar ei orau. Hoffwn ddiolch iân dau gontractwr,
Novus Solutionsâ a âKeepmoatâ â rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith caled ac
rwyân sicr y bydd y bobl syân defnyddioâr canolfannauân rheolaidd yn hapus iawn
gydaâr adnoddau ar eu newydd wedd.â
Yn ddiweddar cyfrannodd a gosododd âNovus Solutionsâ ddwy gegin mewn
Canolfannau Cymunedol yn Nhreffynnon â Llwyn Aled A Llwyn Beuno. Roedd hyn yn
cynnwys defnyddio lliwiau gwahanol yn unol â chanllawiauâr RNIB wrth baentioâr
ardaloedd cymunedol.
Meddai Gary Owen, Rheolwr Gweithrediadau yn âNovusâ:
âArbenigwyr cynnal a chadw eiddo yw âNovus Property Solutionsâ a chysylltodd
Cyngor Sir y Fflint gyda ni er mwyn gwneud gwaith paentio a llorio yn ardal
Treffynnon. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn fusnes cyfrifol a gweiniâr
gymuned ehangach. Rydym wedi gosod targed iân hunain i newid 20,000 bywyd fel
rhan oân hymgyrch Newid Bywydau ac rwyân hynod falch o fod wedi cyfrannu a
gosod y ceginau hyn er budd y gymuned ac i wellaâr adnoddau yn y canolfannauâ.
Mae âKeepmoatâ, arbenigwyr tai ac adfywio, yn adfywio eiddo er mwyn gwella
deilliannau economaidd a chymdeithasol i bobol. Yn ddiweddar fe wnaethant osod
cegin newydd yng Nghanolfan Gymunedol Aston.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint
ac aelod lleol Aston:
âMaeâr Ganolfan Gymunedol yn Aston yn cael ei defnyddio gan sawl grwp gwahanol
ac maen ganolbwynt iâr gymuned. Mae diweddaruâr gegin wedi bod yn welliant
sylweddol ac maeâr gymuned yn hynod o ddiolchgar i Keepmoatâ am y gwaith gwych
maent wedi ei wneud.
Meddai Frank Mondino, Cyfarwyddwr Ardal Keepmoat yn y Gogledd Orllewin:
âRydym wrth ein boddau o allu gosod y gegin newydd hon y bydd yr holl gymuned
yn elwa ohoni am flynyddoedd i ddod.â
Mae rhaglen SATC yn golygu y dylai holl denantiaid Cymru gael y cyfle i fyw
mewn cartrefi o safon uchel syân cwrdd gofynion y cartref.
Mae TĂŽm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am uwchraddio mewnol ac
allanol i bob eiddo gan y cyngor, gan gydymffurfio â SATC erbyn y flwyddyn
2020.
Meddai Tony Jones, Rheolwr Gwaith Cyfalaf:
âDyma enghraifft arall o gontractwyr yn gweithio gydaân tĂŽm ni er mwyn darparu
adnoddau gwell iâr gymuned ehangach. Maeâr ceginau newydd ymaân ychwanegol iâr
ceginau yr ydym wedi eu gosod eisoes mewn cymunedau eraill fel Coppa View ym
Mwcle, Chapel Court yng Nghei Connah, a Hawksebury ym Mwcle. Mae contract SATC
yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu Mantais Gymunedol fel rhan oâu
cytundeb.â
Cegin Canolfan Gymunedol Llwyn Aled, oâr chwith iâr dde: Gary Owen - Novus,
Cyng Peter Curtis, Ffion Smith - Novus, Tony Jones â Rheolwr Gwaith Cyfalaf
CSyFf, Jon Jones â Archwiliwr Contractau CSyFf ar Cyng Aaron Shotton.