Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dadorchuddio Gwarchodwr Mawr Sir y Fflint ym Mhwynt y Fflint
Published: 11/05/2016
Yn ddiweddar dadorchuddiodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint gerflun pren ar
Lwybr yr Arfordir.
Pwrpas y prosiect celf gwerth £5,000 hwn oedd creu milwr pren i warchod a
gwylio dros Ynys Hilbre o Bwynt y Fflint.
Sicrhaodd y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyllid gwerth £43,000 gan y Gronfa Cymunedau
Arfordirol ar gyfer gwelliannau ym Mhwynt y Fflint. Mae prosiectau ar y gweill
gan gynnwys gosod wyneb newydd ar lwybrau troed, creu llwybr troed arall ar
gyfer llanw uchel, gwyro erydiad, creu llwybr troed arall a thrwsio ffensys a
phrosiect celf.
Comisiynwyd artist lleol, Mike Owens i wneud y gwaith. Maeār cerflun wediāi
wneud o goed llarwydd, maeān dair metr o uchder, defnyddiwyd rhaff ddur i wneud
yr arfwisg a defnyddiwyd hoelion pen crwn wediāu galfaneiddio i greu menyg dur.
Meddaiār Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cyngor
Sir y Fflint:
āMaeār āBig Āé¶¹“«Ć½ĶųÕ¾ Guardianā neuār BFG yn ychwanegiad gwych iār safle. Mae
eisoes yn atyniad poblogaidd iawn ymysg trogolion lleol a bydd yn denu llawer o
bobl pan ddawr Eisteddfod ir Fflint dros y misoedd nesaf.ā
Gwahoddwyd trigolion lleol draw, ynghyd ag aelodau o Grwpiau Canoloesol Samhain
a Cymdial a oedd yn eu gwisgoedd ar gyfer y lansiad swyddogol.
Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau
morol Ystad y Goron. Feāi darperir gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth
y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
BFG.JPG
Oār chwith: George a Carol Andrews (trigolion lleol), Christopher Roberts
(Cymdeithas Ganoloesol Cymdial), Roy a June Davies (trigolion lleol), Jim
Craven (gwirfoddolwr), Y BFG, Mike Owens (artist), Stephen Lewis (Ceidwad Cefn
Gwlad), Charles Evans Gunther (Cymdeithas Ganoloesol Samhain)