Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cerdyn Sul y Mamau
Published: 16/02/2016
Mae Archifdy Sir y Fflint wedi creu cerdyn Sul y Mamau arbennig i gofio mam a
merch enwog o Gaerwys, sef Ruth a Kitty Lewis Plas Penucha.
Magwyd Ruth Lewis (1872-1946) yn Lerpwl ac ynaān Llundain, lle cafodd ei
haddysg. Ar Ɠl priodi J. Herbert Lewis symudodd i Gaerwys a mabwysiadu Cymru
fel ei gwlad a dechrau dysgu Cymraeg. Ymhen dim, roedd hiān rhugl.
Teithiodd Ruth ar hyd a lled y wlad yn casglu caneuon gwerin ac ym 1914 bu iddi
gyhoeddi ei chasgliad; maeār llyfryn ar gael a chadw heddiw yn Archifdy Sir y
Fflint (D/L/816). Roedd Ruth yn frwd dros ddatganoli ac ym 1921 cafodd ei
phenodiān ynad ym Mwrdeistref Westminster yn Llundain, y ferch gyntaf i ddal y
swydd honno. Ruth hefyd oedd y ferch gyntaf i gael ei phenodiān ynad yn Sir y
Fflint; a bu iddi ddal y swydd honno am bron i chwarter canrif.
Roedd Alice Catherine āKittyā Lewis (1898-1984), eu hunig ferch, hefyd yn frwd
dros ddatganoli ac roedd hi hefyd yn aelod o Blaid Cymru. Cafodd ei haddysg yng
Ngholeg Prifysgol Aberystwyth (1916-18) ac roedd hiān hoff o gymryd rhan mewn
eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Hi oedd llywydd Eisteddfod Caerwys ar
achlysur dathlu can mlynedd ers ei sefydlu.
Meddaiār Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg āMae Sul y Mamau yn wyl hir
sefydlog. Ar un adeg hwn oedd yr unig ddiwrnod yn ystod y flwyddyn y cai
merched a meibion yn y lluoedd arfog, rhai ymhell oāu cartrefi, y cyfle i
ymweld Ć¢āu mamau. Maeār llun hyfryd ar y cerdyn hwn yn portreaduār berthynas
glos rhwng mam Ć¢āi phlentyn.ā
Maeār cardiau yn costio Ā£1.50 ac ar werth yn yr Archifdy ym MhenarlĆ¢g ac yn y
siop yn Theatr Clwyd.