Âé¶ą´«Ă˝ÍřŐľ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tlodi Bwyd

Published: 11/03/2021

Food Poverty small.jpgPan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth, 16 Mawrth, bydd Aelodau Cabinet Sir y Fflint yn cydnabod yr ymdrech gymunedol enfawr a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf a hefyd yn croesawu’r cynnydd a wnaed i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Sir y Fflint.ĚýĚý

Mae grwpiau cymunedol wedi chwarae rĂ´l allweddol ers tro i gefnogi preswylwyr diamddiffyn yn Sir y Fflint.Ěý Ers dechrau’r pandemig, mae llawer o grwpiau cymunedol lleol wedi camu i mewn i gynnig cymorth a chefnogaeth i’w cymdogion ac fel Cyngor rydym yn cydnabod ac yn diolch iddynt am y gwaith maent wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud.Ěý

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn asgwrn cefn y gefnogaeth gymunedol hon drwy gydol y pandemig a gyda chefnogaeth wedi’i lleoli’n aml sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned ac wedi dod â phobl gyda’i gilydd.ĚýĚý

I gyfannu hyn, mae Sir y Fflint wedi bod yn datblygu’r rĂ´l mae’n ei chwarae i gefnogi ei bobl leol ac wedi bod yn gweithio tuag at weithredu rhaglenni bwyd cynaliadwy hirdymor; gall grwpiau cymunedol fod yn bartneriaid allweddol yn hyn.ĚýĚý

Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi hyn ac yn credu, wrth symud ymlaen, y gallwn weithio gyda’n gilydd i gynnig math o gefnogaeth fwy cyfan a chynaliadwy sydd nid yn unig yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ond yn ymgysylltu ac yn ymateb i faterion cymdeithasol ehangach fel cefnogaeth les, gwiriadau budd-daliadau, cyngor ar dai a llawer mwy.Ěý

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae eleni wedi cyflwyno heriau sylweddol, fodd bynnag yn hytrach nag atal cynnydd maent wedi creu cyfleoedd sydd wedi ein galluogi ni i greu effaith gadarnhaol a chaniatáu i ni ddod â rhai o uchelgeisiau’r dyfodol ar gyfer cyflawni a thrawsnewid busnes.”

Mae ein cyflawniadau hyd yma wedi cynnwys:Ěý

  • Rhaglen fwyd “Rhannu eich Cinio” (2018 a 2019) mae pob un wedi darparu miloedd o brydau i blant yn ystod y cyfnodau gwyliau hyn.Ěý
  • Cinio pecyn wedi’i ddarparu i gartrefi plant nad oedd yn gallu cael mynediad i’w prydau ysgol am ddim oherwydd COVID-19, yna taliadau uniongyrchol wedi eu cyflwyno wnaeth barhau yn ystod gwyliau’r ysgol.ĚýĚý
  • Cefnogaeth i breswylwyr diamddiffyn ac sy’n gwarchod eu hunain yn ystod cyfnod clo gyda bocs bwyd wythnosol yn cael ei gludo, wnaeth barhau mewn un ffordd neu’r llall ar Ă´l i’r cyfnod clo ddod i ben.ĚýĚý
  • Datblygu peilot popty araf i gwrdd a gweithio gyda’r teuluoedd, deall eu perthynas gyda bwyd i annog teuluoedd i goginio bwyd ffres gyda’i gilydd a bwyta gyda’i gilydd.Ěý Ěý Cafodd y rhaglen hon ei gohirio oherwydd COVID-19 ond bydd yn dechrau gynted ag y bydd y sefyllfa bresennol wedi gwella.

Parhaodd y Cynghorydd Mullin:

“Rwy’n falch iawn o gyfrannu fel Aelod Cabinet i gefnogi’r gwaith hwn, ar adegau mae wedi bod yn heriol i’n staff a gwirfoddolwyr ond maent wedi bod yn benderfynol i wneud cyfraniad a gwahaniaeth i bobl Sir y Fflint.Ěý

“Rydym hefyd eisiau adeiladu ar ein perthynas gyda’n grwpiau cymunedol lleol sydd yn gwneud gwaith rhagorol.Ěý Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gynnig cefnogaeth ehangach a chynnig y cyfleoedd gorau posibl i’n preswylwyr.”

Ěý