Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyllideb y Cyngor 2016/17
Published: 15/01/2016
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y camau olaf yn y broses o bennu
cyllideb refeniw 2016/17 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Ionawr.
Mae angen llenwiār bwlch ariannu ar gyfer y flwyddyn anodd syān ein hwynebu,
ond bydd yn gam mawr ymlaen o ran mantoliār gyllideb refeniw ar gyfer
2016/17 mewn cyfnod anodd ym maes cyllidoār sector cyhoeddus. Yn Sir y Fflint,
llwyddwyd i wneud hyn drwy gyfuniad o gynlluniau busnes gofalus, lleihau
gorbenion y sefydliad yn barhaus a mentroān ofalus i reoli pwysau fel cyflogau
a chwyddiant mewn prisiau.
Maeār Cyngor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, wrth bennuār setliad dros dro i
Lywodraeth Cymru yng Nghymru, wedi gwrando ar yr achos a gyflwynwyd gan gyrff
llywodraeth leol i arafu toriadau ac effeithiau rhaglen gyni Llywodraeth y DU.
Llwyddodd Sir y Fflint, gyda chymorth cymunedau lleol drwy gyfrwng yr ymgyrch
Dymaāch Cyfle Chi, i gyfrannuān effeithiol at yr ymgyrch genedlaethol.
Drwy gydol proses y gyllideb, maeār Cyngor wedi ceisio diogelu gwasanaethau
ārheng flaenā, cyfleusterau cymunedol a chyllid i ysgolion. Dywedodd Arweinydd
y Cyngor, Aaron Shotton: O ganlynia iār gwaith hwn, rydym yn falch o gyhoeddi
na fydd unrhyw fygythiadau newydd i wasanaethauār Cyngor yn 2016/17. Bydd y
rhestr o wasanaethau y nodwyd eu bod dan fygythiad yn y cyfarfod cyhoeddus a
gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn cael eu diogelu am flwyddyn arall.
Un o flaenoriaethauār Cabinet eleni yw ceisio sicrhau cynnydd o 1% yng
nghyllid craidd ysgolion lleol.ā
I fantoliār gyllideb, mae bwlch o Ā£3m yn parhau, syān cynnwys pwysau newydd a
nodwyd dros fisoedd y gaeaf ers cyhoeddi rhagolygon y Strategaeth Ariannol
Tymor Canolig. Bydd gwaith yn parhau i fynd rhagddo i gauār bwlch hwn cyn
cyflwyno adroddiad terfynol gerbron y Cabinet ym mis Chwefror.
Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton,Mae gwaith yn mynd rhagddo i fantoliār
gyllideb erbyn 16 Chwefror, sef y dyddiad cau. Bydd yn hanfodol i Lywodraeth
Cymru dorri cyn lleied â phosibl ar y grant i gynghorau lleol yn y dyfodol.
Rhaid hefyd fynd ati ar fyrder i ddiwygioār system o ariannu llywodraeth leol.
Ni all Sir y Fflint barhau i dderbyn Ā£17.5 miliwn yn llai bob blwyddyn naār
grant cyfartalog a roddir i gynghorau Cymru ar sail maint poblogaeth cymharol.