Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi Iach Pobl Iach
Published: 15/12/2015
Nod menter newydd Cyngor Sir y Fflint, āCartrefi Iach Pobl Iachā, yw gwellaār
ffordd y mae gwahanol sefydliadauān gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys
Gofal a Thrwsio Gogledd-ddwyrain Cymru, Gwasanaeth TĆ¢n ac Achub Gogledd Cymru a
Chyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, a defnyddio dull holistaidd o wella
iechyd, lles a diogelwch trigolion syān byw mewn tai rhentu preifat drwy
wellaāu hamodau byw.
Yn ddiweddar mae TƮm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn
gweithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i dargedu tai sydd mewn cyflwr gwael
yn ardal Cei Connah. Fel rhan oār fenter hon ymwelwyd Ć¢ dau eiddo, sef 341 a
343 Stryd Fawr, Cei Connah sef adeilad tri llawr a oedd wedi cael ei drosiān
wael i greu nifer o fflatiau.
Yn ystod yr ymweliad gwelwyd nad oedd y system larwm tân yn gweithio, roedd y
gwaith trydanol yn ddiffygiol ac yn beryglus ac nid oedd system wresogi
sefydlog yn unrhyw un oār fflatiau. Caewyd y fflatiau ar unwaith yn dilyn yr
ymweliad oherwydd y perygl i ddiogelwch y tenantiaid a gafodd lety dros dro gan
y Cyngor. Mae Swyddogion Tai yn cynorthwyoār tenantiaid hyn i ddod o hyd i
gartrefi eraill ar hyn o bryd.
Meddaiār Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Ddiogeluār Cyhoedd:
āMae gan bobl syān byw mewn tai rhentu preifat hawl i ddisgwyl iāw tai fod yn
ddiogel ac wediāi wresogiān briodol a bydd y fenter āCartrefi Iach Pobl Iachā
yn helpu i ganolbwyntio egni pob partner i dargeduār landlordiaid hynny syān
methu Ć¢ chyflawni eu cyfrifoldebau iāw tenantiaidā
O 23 Tachwedd 2015 ymlaen bydd deddfwriaeth newydd yng Nghymru yn mynnu fod pob
landlord, asiant gosod a rheoli yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru
www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/ . Nod y drwydded newydd hon yw gwellaār ffordd
y caiff eiddo rhent ei reoli yng Nghymru.