Āé¶¹“«Ć½ĶųÕ¾

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr troed newydd wedii gwblhau

Published: 14/12/2015

Mae gwaith ar lwybr troed newydd i wella diogelwch ger Ysgol Uwchradd Argoed wedi’i gwblhau. Dynodwyd y gwaith ar Bryn Road, Bryn y Baal yn flaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint ar Ć“l iddo ddiogelu Ā£247,000 o arian ā€˜Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’ gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgyrch i osod llwybr troed ar y ffordd brysur er mwyn gwneud yr ardal yn fwy diogel i fyfyrwyr sy’n cerdded i’r ysgol. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: ā€œRwy’n falch iawn fod y gwaith wedi’i gwblhau ar amser. ā€œMae’r llwybr hwn yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol a phreswylwyr yn ddyddiol a bydd y llwybr troed newydd a’r groesfan sebra yn gwella diogelwch i bawb.ā€ Nodyn i Olygyddion Bydd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cyfarfod Ć¢ chynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o Ysgol Uwchradd Argoed i archwilio’r llwybr newydd am 9.30am ddydd Mercher, 16 Rhagfyr. Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd.