Âé¶¹´«Ã½ÍøÕ¾

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymateb y Cyngor i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru

Published: 18/03/2019

Mae i Gabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo’r ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru 'Gwella Cludiant Cyhoeddus’.Ìý

Mae’r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn dymuno derbyn safbwyntiau ar gynigion diwygio'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ynghyd â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat eraill.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, sydd hefyd yn cadeirio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio Corff Cludiant Rhanbarthol. ÌýÌýNid yw gwasanaethau cludiant yn cael eu dylanwadu gan ffiniau sirol, ond gan ben y daith. ÌýÌýFelly mae gwasanaeth integredig a chysylltiedig yn hanfodol, os yw system cludiant cyhoeddus cynaliadwy a fforddiadwy am ddod yn realiti ar draws ein rhanbarth.â€

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Strydwedd a Chludiant, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Cafodd y cynigion hyn eu hadolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym mis Chwefror.Ìý ÌýÌýRoedd yna gytundeb cyffredinol i’r cynigion, gyda rhai eithriadau. ÌýMae manylion llawn yr holl sylwadau a wnaed wedi eu cynnwys yn ymateb ffurfiol y Cyngor.â€

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae cynigion 7 – 10 yn cyfeirio’n uniongyrchol at drwyddedu tacsis a thrafodwyd gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Chwefror, gyda’r holl sylwadau’n cael eu cynnwys yn ymateb y Cyngor.Ìý ÌýÌýYnglyn â rhif 10, roedd y pwyllgor yn teimlo bod angen mwy o fanylion i ddangos sut y byddai Awdurdod Cludiant ar y Cyd yn ymgymryd â’r swyddogaeth trwyddedu a’i bod yn anodd ateb y cwestiwn.â€

Gellir dod o hyd i’r deg cynnig ac ymateb y Cyngor yn Atodiad A o’r adroddiad ar wefan y Cyngor.Ìý

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad yw 27 Mawrth.Ìý

Ìý