Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yn ariannu prosiectau gwerth £450,000
Published: 16/10/2025
Mae Partneriaeth Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (NWRWTP) ac Enfinium yn falch o gyhoeddi bod Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer bellach wedi ariannu cyfanswm o 18 prosiect gwerth ÂŁ450,000 hyd yn hyn, ac mae ceisiadauân dal ar agor! Â
Ffurfiwyd NWRWTP gan bum Cyngor yng Ngogledd Cymru â Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys MĂ´n â i reoliâr gwastraff gweddilliol a gynhyrchir gan aelwydydd oâr pum awdurdod lleol ar y cyd. Gwastraff gweddilliol yw'r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu sy'n weddill ar Ă´l ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl.Â
Mae cyfleuster Creu Ynni o Wastraff Enfinium Parc Adfer wedi'i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac maeân dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy ar gyfer tua 30,000 o gartrefi a busnesau. Â
Fel rhan o'u hymrwymiad i'r gymuned leol, fe wnaeth y Bartneriaeth ac Enfinium addo ariannu'r Gronfa Buddion Cymunedol hirdymor â gwerth ÂŁ230,000 y flwyddyn â ar gyfer cymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy. Â
Mae Cronfa Buddion Cymunedol hirdymor Parc Adfer wedi'i lansio ac fe ddechreuodd dderbyn ac asesuâr ceisiadau cyntaf ddiwedd 2023. Nod y gronfa yw cefnogi prosiectau sy'n helpu neu a fydd o fudd i'r amgylchedd lleol. Bydd yn cefnogi pum prif faen prosiect, sef:-Â
1. Egni adnewyddadwy
2. Lleihau carbonÂ
3. Ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraffÂ
4. Bioamrywiaeth a gwelliannau i ansawdd yr amgylchedd lleol
5. Datgarboneiddio cludiantÂ
Y mathau o sefydliadau lleol a all fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gan Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yw sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol ac elusennau sy'n gweithio o fewn Ardal ddiffiniedig Partneriaeth Glannau Dyfrdwy.Â
Mae'r Bartneriaeth yn falch o gyhoeddi, ers dyfarniad y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer Cronfa Buddiannau Cymunedol Parc Adfer ddiwedd 2023, ei bod wedi darparu grantiau i 18 o brosiectau gwerth ÂŁ450,000, ac mae'r gronfa'n dal i dderbyn ceisiadau.Â
Ceir enghreifftiau o brosiectau sydd wediâu cyflawniân llwyddiannus gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer isod.Â
Dyfarnwyd ÂŁ730 i Gyfeillion Gerddi Quayscape ar gyfer eu prosiect gardd gymunedol, lle plannodd y gwirfoddolwyr amrywiaeth o goed a llwyni i gynyddu'r diddordeb tymhorol yn yr ardd. Fe wnaethon nhw hefyd hau hadau blodau gwyllt yn ardal y ddĂ´l a phlannu 500 o fylbiau gan gynnwys clychauâr gog ac eirlysiau.Â
Cadarnhaodd cadeirydd Cyfeillion Gerddi Quayscape, Jayne Rowland, bod grant Parc Adfer wedi âcael effaith sylweddol ar yr ardd ac mae nawr yn annog llawer o aelodauâr cyhoedd iâw defnyddio ac mae mwy o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth ynoâ.Â
Enghraifft arall o brosiect a gefnogir gan y Gronfa yw Cambrian Aquatics, a dderbyniodd ÂŁ42,000 tuag at offer i gynyddu effeithlonrwydd y system rheoli pyllau (gwresogi, dosio ac ati). Â
Meddai Susan Banks, Rheolwr y Ganolfan yn Cambrian Aquatics, âMaeâr prosiect hwn yn fuddsoddiad strategol yn nyfodol ein cyfleuster, gan sicrhau ased cymunedol mwy effeithlon, syân amgylcheddol gyfrifol, gydag elfennau technolegol datblygedigâ Â
Yn olaf, enghraifft arall yw Rainbow Biz, a sicrhaodd gyllid ar gyfer eu prosiect âGarddioâr Glannauâ, sydd wedi ariannuâr gwaith o adeiladu rhandir newydd yn Sefydliad Cofeb Rhyfel Queensferry, yn ogystal ag ariannu offer garddio amrywiol, ty gwydr, paneli solar i wefru offer garddio a helpu gyda chostau cyflog cydlynydd prosiect. Mae'r prosiect wedi arwain at ddatblyguâr safle o fod yn ardd nad oedd yn cael ei defnyddio i fod yn ganolbwynt tyfu, dysgu a gweithgarwch.Â
Meddai Ian Forrester, Cyfarwyddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol RainbowBiz, "Heb gefnogaeth Parc Adfer ni fyddai ein safle newydd, Garddio'r Glannau, wedi bod yn bosibl. Yn 2023, roedden ni mewn sefyllfa i roiâr gorau iâr prosiect yn dilyn llifogydd ar ein hen safle. Byddai hynny wedi golygu y byddaiâr oedolion diamddiffyn yr ydym niân eu cefnogi yn colliâr cysylltiadau hanfodol a gafodd eu meithrin dros y 10 mlynedd diwethaf. Â
Diolch i Barc Adfer, rydym wedi llwyddo i adeiladu safle syân gallu darparu ar gyfer mwy o bobl yn Queensferry. Cyrraedd mwy o bobl yn y gymuned, cynnal y cysylltiadau sydd wediâu gwneud ac wrth gwrs, darparuâr sgiliau i dyfu eich bwyd eich hun. Diolch yn fawr iawn i Barc Adfer am eu cefnogaeth."Â
Meddaiâr Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:Â
âMae Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer yn gronfa hirdymor er budd cymunedau yn ardal y bartneriaeth, yn enwedig y rheiny sydd agosaf at Barc Adfer, gan ganolbwyntio ar ariannu prosiectau syân helpu neu o fudd iâr amgylchedd. Rwy'n falch iawn o weld y prosiectau gwych sydd wediâu hariannu eisoes a byddwn yn annog pob sefydliad cymwys i wneud cais ar gyfer y gronfa. Bydd y cynllun hwn yn helpu i barhau ââr gwaith amgylcheddol gwerth chweil sydd eisoes yn cael ei wneud."Â
Meddai David Cottis, Rheolwr Ffatri Enfinium Parc Adfer: âMae Enfinium Parc Adfer yn falch o gefnogi'r gymuned drwy Gronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer. Mae'n wych gweld prosiectau mor fuddiol yn cael eu hariannu, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i helpu i wneud gwahaniaeth i sefydliadau a phreswylwyr yn y gymuned leol.âÂ
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cronfa Buddion Cymunedol Parc Adfer a dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael cyllid oâr gronfa gysylltu ââr tĂŽm trwy ffonio 01352 704686 neu anfon e-bost at ParcAdferCommunityFund@flintshire.gov.uk. Â