Âé¶¹´«Ã½ÍøÕ¾

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn sicrhau £5 miliwn ar gyfer gwelliannau priffyrdd

Published: 29/09/2025

Mae rhaglen fawr o waith cynnal a chadw a gwella ffyrdd yn mynd rhagddi yn Sir y Fflint. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn anelu i gyflymu’r broses o atgyweirio ein rhwydwaith priffyrdd lleol.

Mae’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol newydd yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i ddatgloi £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol. Nod y fenter yw cynyddu faint o waith ail-wynebu ac atgyweirio tyllau mewn ffyrdd sy’n cael ei gwblhau ar draws holl awdurdodau lleol Cymru, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd sydd fwyaf angen sylw.

Mae Sir y Fflint wedi sicrhau £5.66m o’r fenter ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd dros y ddwy flynedd nesaf gyda rhaglen waith wedi’i datblygu i wella arwyneb amryw o ffyrdd yn y sir, gyda buddsoddiad sylweddol wedi’i gynllunio. Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu’n ddau gam a bydd y cyllid yn cael ei rannu dros ddwy flynedd ariannol: 2025-2026 a 2026-2027.

Bydd cam cyntaf y rhaglen £2.7m i roi wyneb newydd ar ffyrdd yn dechrau wythnos yma gyda gwaith wedi’i gynllunio mewn 26 o leoliadau ac ail gam arall wedi’i gynllunio’n ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Dechreuodd y rhaglen o drwsio’r ffyrdd cerbydau ym mis Awst 2025, sy’n rhaglen £1.2 miliwn eleni, a bydd yn parhau dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda’r gwaith trin arwynebau ar gyfer 2025 eisoes wedi’i gwblhau, gan gyflawni £0.450m o welliannau i’r rhwydwaith ffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd: “Rydym yn croesawu’r cyllid hwn a fydd yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â’r ôl-groniad sylweddol o waith adeiladu a chynnal a chadw sydd angen ei wneud ar ffyrdd ar draws y sir.  Rydym yn gwybod bod hyn yn flaenoriaeth i’n preswylwyr a’n cymunedau lleol, ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel ac mewn cyflwr da.â€Â 

Mae’r rhaglenni yn ymwneud â thriniaethau strwythurol ac wyneb i ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn cael eu blaenoriaethu o ddata arolwg cyflwr blynyddol ac archwiliad gweledol i wella isadeiledd priffyrdd o fewn Sir y Fflint. 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen o waith gwella priffyrdd ar gael ar wefan Sir y Fflint a bydd camau pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.