Āé¶¹“«Ć½ĶųÕ¾

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysbryd Cymunedol i’w weld wrth i ā€˜Feiciau yn eu Blodau’ Drawsnewid Canol Tref Bwcle

Published: 10/09/2025

Mae cynllun cyllid grant sy’n rhoi cyfle i sefydliadau lleol ymgeisio hyd at Ā£10,000 i gyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau yng nghanol trefi ar draws Sir y Fflint yn boblogaidd.

Mae hanner y cyllid sydd ar gael ar gyfer 2025-26 sydd wedi cael ei sicrhau drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi cael ei ddyrannu i amrywiaeth o fentrau cyffrous dan arweiniad y gymuned.Ā  Ymysg y llwyddiannau amlwg hyd yn hyn mae prosiect ā€˜Beiciau yn eu Blodau’ sy’n cael ei ddarparu gan Refurbs Buckley. Yn sgil y digwyddiad cyflwynwyd creadigrwydd, cydweithio a lliw i ganol tref Bwcle.

Rhwng 11-16 Awst 2025, daeth preswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol lleol ynghyd i drawsnewid beiciau mewn i arddangosfeydd blodau hyfryd.Ā  Trwy gyfres o weithdai cyhoeddus, fe gydweithiodd pobl leol i roi bywyd newydd i hen feiciau fel darnau bywiog o gelfyddyd stryd, gan ddangos ysbryd cymunedol a gwerthoedd cynaliadwy Bwcle.Ā 

Uchafbwynt yr arddangosfa oedd Marchnad Haf ar ddydd Sadwrn 16 Awst, wedi’i gynnal gan Refurbs Buckley, lle daeth y gymuned ynghyd i ddathlu llwyddiant y prosiect a mwynhau stondinau, bwyd ac adloniant lleol.Ā 

Mae ā€œBeiciau yn eu Blodauā€ wedi bod yn enghraifft wych o beth ydi Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau - annog creadigrwydd lleol a dod Ć¢ phobl ynghyd i wneud ein trefi yn llefydd mwy bywiog i ymweld Ć¢ nhw,ā€ meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Yr Economi, Amgylchedd a Hinsawdd.Ā  ā€œMae hi wedi bod yn galonogol gweld beth mae cyllid grant yn gallu ei wneud i ganol tref i roi bywyd iddo gyda phrosiect mor unigryw.ā€

Mae’r cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yn dod Ć¢ chymunedau ynghyd, yn ychwanegu bywiogrwydd i’n trefi, yn hyrwyddo lles ac yn gwella mannau cyhoeddus.Ā  Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Wasanaeth Menter ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn rhan o ddarparu Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref 2025-26.

Mae’r cynllun grant dal i fod ar agor i ymgeiswyr newydd sydd awydd darparu digwyddiadau cyn diwedd mis Ionawr 2026 pan mae cyllid ar gael.Ā  Mae mwy o wybodaeth ar gael neu e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk