Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Canlyniadau
Published: 14/08/2025
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr ôl-16 yn Sir y Fflint sydd yn dathlu heddiw wrth iddynt dderbyn graddau eu harholiadau.ÌýÌý
Ìý
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
Ìý
“Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch pob dysgwr ôl-16 yn Sir y Fflint am eu gwaith caled wrth gyflawni eu canlyniadau.Ìý
Ìý
Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ymgymryd â chyfleoedd newydd i ddysgu, boed hynny’n mynd i brifysgol, dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu fynd i fyd gwaith.ÌýÌý
Ìý
Fe hoffwn i hefyd ddiolch i’w rhieni a gofalwyr am eu hanogaeth a’u cefnogaeth, a chydnabod ymrwymiad ein hysgolion yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiadau hynny.â€
Ìý
Ìý
Meddai Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:Ìý
Ìý
“Fe hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i’n holl ddysgwyr ôl-16 ar eu canlyniadau eleni.Ìý Gall pob person ifanc fod yn falch iawn o’u cyflawniadau a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu dyfodol.
Ìý
Mae heddiw yn brawf o waith caled myfyrwyr Sir y Fflint. Fe hoffwn i hefyd gydnabod sgil ac ymroddiad eu hysgolion a fu’n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r canlyniadau gorau. Dwi’n gwybod y bydd staff ein hysgolion yn parhau i gynnig cyngor ac arweiniad i ddysgwyr wrth iddynt wneud dewisiadau pwysig am eu dyfodol.â€
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý