Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mabwysiadu enw lle Cymraeg yn ffurfiol
Published: 21/11/2024
Maeār enw Cymraeg ar New Brighton bellach wediāi gydnabod yn swyddogol fel Pentre Cythrel, yn dilyn cefnogaeth Cabinet Cyngor Sir y Fflint.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr o blaid mabwysiadu'r enw Cymraeg ac mae gwaith yn mynd rhagddo rwan i sicrhau bod yr enw Cymraeg yn cael ei gynnwys ar sianelau swyddogol.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cael gwybod ac wedi diweddaruār rhestr o enwau llefydd safonol ar eu gwefan. Rydym ni wedi gofyn iār Rhestr Tir ac Eiddo Lleol, yr Arolwg Ordnans aār Post Brenhinol i ddiweddaru eu cofnodion hwy hefyd. Gall preswylwyr rwan ddewis defnyddio Pentre Cythrel neu New Brighton fel eu cyfeiriad.
Yn 2018 cysylltodd aelodau oār cyhoedd a sefydliadau gyda Phanel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn iddyn nhw ystyried āPentre Cythraulā fel yr enw Cymraeg safonol ar New Brighton. Fodd bynnag, gan mai awdurdodau lleol syān gyfrifol am enwau lleoedd, maeār Comisiynydd wedi bod yn cysylltu Ć¢ār Cyngor i ddarparu cyngor ar yr enw Cymraeg priodol.
Daeth aelod lleol at y Cyngor yn gofyn iddo fabwysiaduār enw yn ffurfiol. Yn dilyn ymgynghoriad gyda phreswylwyr lleol, cafwyd llond llaw o wrthwynebiadau i āCythraulā oherwydd ystyr y gair.
Dawār enw āPentre Cythraulā o gysylltiad y pentref gyda theulu Catherall. Roedd y Comisiynydd yn cefnogi ffurf Gymraeg, ond yn ffafrio Pentre Cythrel. Dywedodd fod Cythrel yn adlewyrchuār ffordd y caiff yr enw ei ynganuān lleol.
Meddaiār Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: āFel aelod lleol Pentre Cythrel, dw iān falch iawn bod gennym ni enw Cymraeg a gydnabyddir oār diwedd. Mae preswylwyr lleol wedi bod yn defnyddioār enw Cymraeg ers llawer o flynyddoedd, ac felly mae hwn wedi bod yn gam a groesawyd ganddynt. Mae hefyd yn cefnogi Strategaeth Hyrwyddoār Gymraeg y Cyngor drwy wella gwelededd a normaleiddioār defnydd o Gymraeg.ā
Llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: āRydym niān falch bod Cyngor Sir y Fflint yn gallu symud ymlaen yn hyderus i fabwysiadu enw Cymraeg safonol a swyddogol ar gyfer y pentref. Dydi penderfynu pa enw a ddylid ei gydnabod yn swyddogol ddim yn dasg hawdd bob tro ac maeār Cyngor wedi mynd ati o ddifrif gydaār broses enwi, mewn ymateb i alwadau gan breswylwyr lleol.
āRydym niān falch bod y Cyngor wedi ymgynghoriān ffurfiol gydaān Panel Safoni Enwau Lleoedd i gael cyngor arbenigol ac annibynnol. Mae hefyd yn galonogol bod yr Arolwg Ordnans yn dymuno ymateb yn brydlon iār argymhelliad swyddogol, yn unol Ć¢āu Polisi Enwau Cymraeg. Byddan nhw rwan yn diweddaru eu cronfeydd data ac yn defnyddio Pentre Cythrel ochr yn ochr Ć¢ New Brighton.ā
Os oes unrhyw un yn newydd iār Gymraeg ac yn ei chael hiān anodd dweud Pentre Cythrel, mae yna recordiad ar gael gyda ffoneg ar wefan y Cyngor, felly gall pawb glywed a gweld yr ynganiad.