Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arweinwyr Ifanc y dyfodol!
Published: 18/01/2023
Yr wythnos ddiwethaf bu i fyfyrwyr o Ysgol Derwenfa ymuno ag Arweinwyr Ifanc MPCTā ac roeddent wrth eu boddau!
Mae āArweinwyr Ifanc MPCTā yn rhaglen addysg cymeriad unigryw, wedi ei hanelu at roiār gwerthoedd a rhinweddau i ddysgwyr i ddatblygu gwytnwch, empathi a sgiliau cyflogadwyedd trwy ethos milwrol ysgafn.
Bu iār myfyrwyr dreulio amser yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gyda staff i ddatblygu sgiliau allweddol, yn arbennig hunanddisgyblaeth.Ģż Dangoswyd hefyd iddynt sut i orymdeithio a sefyll yn syth yn dilyn gwahanol orchmynion a pharhau i ganolbwyntio.ĢżĢż
Dywedodd Laura Cartwright a John Jones, athrawon dosbarth:
āBu iār ddau ddosbarth wir fwynhauār gweithgareddau ac elwa llawer ohonynt.Ģż Hoffem ddiolch i MPCT am eu hamser, maent wir wedi ysbrydoliār plant i weithio tuag at eu nodau a chyflawni eu potensial llawn.Ģż
Yn Ysgol Derwenfa rydym wedi bod yn gweithioān galed i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi syān cyfrannu at ddatblygiad eu cymeriad a pharatoiār plant ar gyfer byd gwaith y dyfodol, trwy ddatblygu sgiliau bywyd trosglwyddadwy.ā
Sylwadau gan rai oār myfyrwyr:
āRoeddwn wir yn hoffiār lloches! Ac roedd y ddisgyblaeth yn wych ond anodd!ā
āRoeddwn yn hoffi pan fu i ni adeiladu den yn y goedwig, roedd yn hwyl.ā
āRoeddwn wir yn ei hoffi. Fe wnaeth fy nysgu i barchu eraill a fi fy hun. Roedd hefyd yn llawer o hwyl ac roedd y ddisgyblaeth yn hwyl. Roeddwn yn hoffi bob dim amdanoā.
Dywedodd Mike Dodd (Tiwtor MPCT):
āRoedd yn bleser dysguār dosbarth hwn. Roedd yr ymgysylltiad trwy gydol y wers yn anhygoel, ac ar Ć“l cyflwyniad ar gymeriad, bu i ni gael ychydig o weithgareddau gan gynnwys iechyd a maeth, gwaith tĆ®m a hunanddisgyblaeth.Ģż Ar y cyfan, roedd y dysgwyr yn wych, bu i mi wir fwynhau eu dysgu ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi nhw aār ysgol ymhellach yn y Flwyddyn Newydd.ā
Ģż
Ģż