Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint
Published: 23/05/2018
Mae sefydliadau lleol a myfyrwyr o Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio yn
Nhalacre i amddiffyn a datblygu bioamrywiaeth ac amgylchedd arfordirol yr ardal
ā i gyd Ć¢ār nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Arfordir Sir y Fflint.
Gwerthfawrogir y datblygiadau cyffrous, o ganlyniad i gydweithio ardderchog
rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a myfyrwyr lleol o Goleg Cambria.
Maeār ddau grwp wedi cydweithioān agos yn y gorffennol, gan ddefnyddio hen Goed
Nadolig i gryfhauār system twyni yn Nhalacre, ond ddechrau Mai, fe ddaethant at
ei gilydd eto i roi cynnig ar ddyluniadau amddiffyn llyffantod cefnfelyn rhag
ysglyfaethwyr.
Mae myfyrwyr Coleg Cambria wedi defnyddioār ardal yn rheolaidd i gyfranogi mewn
prosiectau peirianneg, ond eleni, fe gyflwynwyd her wahanol iār myfyrwyr. Dros
gyfres o ymweliadau, fe weithiodd mwy na 30 o fyfyrwyr au darlithwyr ochr yn
ochr Ć¢ Cheidwaid y Gwasanaeth Cefn Gwlad aār perchnogion tir, Eni, i ddylunio
rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn prin yn yr ardal, rhag
ysglyfaethwyr.
System twyni tywod āTwyni Gronant a Chwningar Talacreā sydd Ć¢ār unig boblogaeth
sefydledig o Lyffantod Cefnfelyn yng Nghymru. Dyma hefyd yr amffibiad mwyaf
prin yn y DU, ac mae llawer iawn o waith yn mynd tuag at amddiffyn a monitroār
rhywogaeth bob blwyddyn. Pan sylweddolwyd yn ddiweddar bod rhai silod a
phenbyliaid yn cael eu hymosod arnynt gan ysglyfaethwyr ym mhyllau Talacre, fe
wnaeth y Gwasanaeth Cefn Gwlad gyflwynor dasg ou hamddiffyn i fyfyrwyr Coleg
Cambria, ac maent wedi cyflawni canlyniadau gwych!
Aeth ceidwaid iār coleg i siarad Ć¢ dau grwp o fyfyrwyr peirianneg a gosod y
dasg iddynt o ddylunio rhywbeth i amddiffyn y Llyffantod Cefnfelyn rhag yr
ysglyfaethwyr hyn. Wrth weithio mewn grwpiau, fe wnaeth y Ceidwaid ar
Myfyrwyr nodi tri dyluniad i roi cynnig arnynt. Maeār dyluniadau hyn bellach
wediāu gosod, a byddant yn cael eu monitroān agos hyd ddiwedd y tymor.
Meddai Ceidwad Arfordir a Chefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson, am y
prosiect: āMae myfyrwyr Coleg Cambria wedi bod yn dychwelyd yn rheolaidd i
Dalacre dros y blynyddoedd, ac mae TƮm Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ddiolchgar am
y berthynas waith gref sydd wediāi datblygu gydar Ceidwaid. Roedd y myfyrwyr
ar y prosiect hwn yn dda iawn ac fe wnaethant weithioān galed. Roeddent yn
gallu addasu wrth iār prosiect ddatblygu ac wrth i broblemau godi.
āHoffwn ddiolch i Anke Kadelka-Williams o Goleg Cambriaam ei chefnogaeth,
flwyddyn ar Ć“l blwyddyn, a hefyd iār myfyrwyr am eu hymdrechion. Maent yn grwp
syān gweithioān galed, yn gwrtais ac yn ddeallus, ac fe ddylaiār coleg fod yn
falch ohonynt. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio Ć¢ār coleg am
flynyddoedd i ddod.ā
Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:
āMaeār prosiect hwn yn tynnu sylw at werth partneriaethau gweithredol. Rydym
yn ddiolchgar am gefnogaeth Coleg Cambria, sydd wedi cyfranogi ers nifer o
flynyddoedd, ac rydym yn edrych ymlaen at waith partneriaeth yn y dyfodol. Da
iawn a diolch i bawb a oedd ynghlwm wrth y gwaith i wneud gwahaniaeth
cadarnhaol iār rhywogaeth hon.ā