Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arwyr yn dod ynghyd ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru
Published: 21/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o ddigwyddiad Gwanwyn Glân Cymru
eleni, a gaiff ei gynnal o Ddydd Gwyl Dewi sef Mawrth 1af i 4 Mawrth.
Ymgyrch genedlaethol yw hon i annog pobl ar draws Cymru i ddod ynghyd i helpu i
lanhau ein Cymru hardd! Maeâr digwyddiad yn rhan o Wanwyn Glân Prydain, ac mae
Cadwch Gymruân Daclus yn awyddus i ysbrydoli pobl Cymru i fynd allan iâr awyr
agored, bod yn heini a bod yn falch o lle maent yn byw.
Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint yn ymuno gyda gwirfoddolwyr, y
tirfeddianwyr Eni UK Ltd a Chadwch Gymruân Daclus i gasglu sbwriel yn Nhalacre
fel rhan o gynllun Gwanwyn Glân Cymru 2018.
Caiff y digwyddiad cyntaf yn Sir y Fflint ei gynnal yn Nhalacre ddydd Gwener 2
Mawrth am hanner dydd. Dylai unrhyw un syân dymuno cymryd rhan gwrdd ar y
traeth a bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu. Digwyddiad ar y cyd yw hwn
rhwng Cyngor Sir y Fflint, Cadwch Gymruân Daclus ac Eni.
Ar yr un pryd bydd digwyddiad âGwylioâr Traethâ Y Gymdeithas Gadwraeth Forol yn
cael ei gynnal. Maeâr digwyddiad hwn yn ffurfio rhan o ddigwyddiad cenedlaethol
lle mae grwpiaun dewis rhan fach or traeth, yn dadansoddiâr sbwriel gaiff ei
gasglu ac yn adrodd yn Ă´l iâr Gymdeithas Gadwraeth Forol i greu darlun o lle y
dawâr sbwriel (er enghraifft y cyhoedd, cychod, tipio anghyfreithlon, pysgota,
y byd meddygol neu garthffosiaeth).
Dydd Sul, 4 Mawrth fe fydd yna ddigwyddiad glanhau arall ym Mharc Gwepra o 11am
- 2pm, cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr. Wedi ei drefnu gan Gyfeillion Parc
Gwepra ac wedi ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, caiff unrhyw
un syân dymuno cymryd rhan eu hannog i ddod draw wedi gwisgo fel eu hoff
uwch-arwr.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cefn Gwlad Cyngor Sir y
Fflint:
âBydd tĂŽm Strydwedd Sir y Fflint hefyd wrth law i gasglu gwastraff a storio
unrhyw blastig gaiff ei gasglu. Mae cadw plastig ar wahân i ddeunyddiau eraill
gaiff eu hailgylchu yn profi i fod yn bwysig gan fod cadw gwastraff plastig o
amgylcheddau morol yn helpu i leihauâr effeithiau niweidiol syân parhau am
gyfnod hir ar fywyd morol fel sydd wedi ei bwysleisio yn y cyfryngau yn
ddiweddar.
âRydym yn awyddus i annog unrhyw un syân gallu cymryd rhan â dewch draw i
unrhyw ddigwyddiad neuâr ddau â does dim angen cadw lle, bydd croeso i chi os y
dewch ar y diwrnod!
Dywedodd llefarydd ar ran Cadwch Gymruân Daclus:
âEin huchelgais yw y bydd 2018 yn nodi trobwynt yn y frwydr yn erbyn llygredd
morol. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ar draws yr holl
sectorau i dacloâr mater drwy weithredu ymarferol, addysg ac ymgyrchoedd. Gall
pawb chwarae eu rhan i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol iân hamgylchedd
morol. Ymunwch â ni os gwelwch yn dda i ofalu am ein harfordir.
âEr mwyn cael y diweddaraf am Wanwyn Glân Cymru dilynwch #gwanwynglancymru ar
y cyfryngau cymdeithasol.â
Os hoffech anfon gohebydd, ffotograffydd neu griw ffilmio iâr digwyddiadau hyn,
cysylltwch os gwelwch yn dda â communication@flintshire.gov.uk am fwy o
fanylion.