Costau (yn cynnwys TAW)
Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £70.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd).
Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol e.e. Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cysylltiedig ag Incwm), Lwfans Byw i’r Anabl / PIP, Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredydau Pensiwn Gwarantedig, ac yn dangos tystiolaeth o hynny, fe allwch chi dderbyn casgliadau gwastraff swmpus rhatach.
- Tâl am hyd at 5 eitem £25.00
- Tâl am bob eitem ychwanegol £5.00
Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £50.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)
Trefnu casgliad
Bydd angen i chi gyflwyno manylion eich budd-dal/pensiwn i ni i os ydych yn gymwys i gael gwasanaeth casglu gostyngol.
Rydym yn derbyn arian parod, cardiau debyd neu gardiau credyd.
Byddwn yn casglu'r eitem(au) o fewn 5 diwrnod. Peidiwch â threfnu casgliad ddwywaith. Os nad yw eich casgliad wedi digwydd cyn pen 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â’r Gwasanaethau Stryd.
Byddwch chi’n cael galwad ffôn o fewn 5 diwrnod gwaith i gadarnhau eich dyddiad ac amser casglu ac i gadarnhau eich pwynt casglu.
Peidiwch â rhoi eitemau allan tan y diwrnod casglu.
Rhowch orchudd dros ddodrefn meddal/dodrefn gyda chlustogau a gaiff eu gadael ar gyfer eu casglu. Mae’n bosibl na fydd eitemau rhy wlyb yn cael eu casglu.
Os ydi eich eitemau yn dal mewn cyflwr da, fe allwch eu gollwng mewn Cynhwysydd Ailddefnyddio mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddim.
Ffôn
Ffoniwch 01352 701234 i dalu trwy gerdyn credyd/debyd.
Post
Anfonwch siec trwy'r post yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o'r eitemau i'w casglu, eich enw, eich cyfeiriad a chopïau o fanylion eich budd-dal/pensiwn at:
Gwasanaethau Streetscene,
Tŷ Dewi Sant,
St. Davids Park,
Ewloe,
CH5 3FF
- Rydym yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw eitemau sy’n cynnwys eitemau y gellir eu hailgylchu
- Rhaid i chi osod yr eitemau y tu allan i’ch eiddo ond o fewn y terfyn (e.e. gardd ffrynt/rhodfa) o’r amser y mae’ch casgliad wedi’i bennu.
- Ni allwn ddod i mewn i'ch cartref i helpu gyda'r paratoadau neu'r gwaredu.
- Peidiwch â gadael yr eitemau ar lwybr troed neu ar y ffordd oherwydd gallai hynny arwain at eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
- Mae'n rhaid bod y cerbyd casglu yn gallu parcio ar eich ffordd, heb gael ei rwystro na'i atal gan gerbydau eraill.
- O ran eiddo â mynediad trafferthus, e.e. fflatiau, rhaid cytuno ar fan casglu gyda ni o flaen llaw.
- Yr eitemau rydych chi wedi eu rhag-archebu yn unig y byddwn yn eu casglu.
- Gallwn wrthod casglu unrhyw eitem a all effeithio ar iechyd a diogelwch ein staff casglu.
- Gofynnwn i chi orchuddio eitemau sy'n debygol o amsugno dŵr glaw.
- Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Byddwn yn ceisio ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint â phosib o’ch gwastraff. Rhowch wybod i ni os ydych yn credu y gellid ailddefnyddio eich eitem, mae’n bosib y gallwn drefnu dyddiad ac amser casglu i atal difrod gan y tywydd.
- Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer gwastraff nad yw’n ddomestig, gan gynnwys gwastraff o fusnesau, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus.